Logo

Croesi Ffynnon Eilian, Crwydro Mon - Anglesey  Walking HolidaysCwmni lleol ydi CRWYDRO MÔN, sy'n cynnig dewis o deithiau cerdded hunan - dywysiedig arbennig, ar hyd Llwybr Arfordirol Ynys Môn.  Mae'n ffordd fendigedig o weld yr ynys a hynny trwy gerdded o un lle i'r llall, gan aros dros nos mewn trefi a phentrefi gwahanol.

Mae na 13 TAITH i gyd, addas i heicwyr a cherddwyr hamdden o bob oed.  Gallwch ddewis faint fynnir o'r teithiau, gan gymeryd gwyliau byr, penwythnos hir, hyd at bythefnos gyfan -  mae'r dewis yn hollol i chi.

Mae pob taith yn amrywio o tua saith milltir a hanner hyd at dair ar ddeg (12-21km) ac yn rhoi'r rhyddid i chi gerdded wrth eich pwysau.  Cewch seibio fel y mynnwch i ymweld â phentrefi, safleoedd hanesyddol ac ati.  Pe byddech yn dewis peidio â cherdded ambell i ddiwrnod cewch gyfle i ymweld â thref hanesyddol Biwmares a/neu drip diwrnod i Ddulyn.

Cewch gychwyn eich gwyliau ar unrhyw ddiwrnod ac ar unrhyw daith sy'n eich siwtio chi, gan fynd ymlaen i 'r daith nesaf a cherdded reit rownd yr ynys pe dymunwch.

I'r rhai hynny sydd angen gwyliau i ymlacio, gwyliau tawel a di-drafferth, dyma'r gwyliau i CHI.

Yn gynnwysiedig yn eich gwyliau arbennig chi mae:-

  • Gwestai wedi eu trefnu ar eich cyfer ymlaen llaw, mewn gwestai, gwely a brecwast, ffermydd, tafarndai a gwersylloedd campio.
  • Cludiant dyddiol o'r man aros i gychwyn y daith ac yn ôl ar ddiwedd y dydd.
  • Cludiant bagiau o un gwesty i'r llall.
  • Dim angen cerdded yn ôl at eich car, na gadael cerbydau mewn mannau anghysbell.
  • Cyflenwi mapiau OS, (gyda'r Llwybr Arfordirol wedi ei farcio arnynt)
  • Gwybodaeth am bob taith ddyddiol, ynghyd â manylion hanesyddol a lleol.

Gwasanaeth personol y perchnogion, sy'n trefnu popeth, er mwyn i chi gael mwynhau eich gwyliau.

 

 

 

 

3 Penrallt, Porthaethwy, Ynys Môn. LL59 5LP

Telephone