Logo

Teithiau Wicklow Môn

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â'n cyfeillion Gwyddelig er mwyn creu pecynnau arbennig ble medrwch dreulio amser ym Môn ac yn Iwerddon.

ESIAMPL O BECYN CERDDED MÔN/WICKLOW

DYDD 1    Cyrraedd
Un
ai teithio’n syth i Lys Llewelyn, Aberffraw, neu cludiant o orsaf Bangor/ Caergybi, neu o Faes Awyr Môn.


DYDD 2    Cerdded Taith Treftadaeth Rhosyr. (6.5 milltir). 

Cludiant nôl a blaen o Lys Llewelyn i gychwyn a diwedd y daith.
Wedi dychwelyd i Aberffraw, mae ‘na opsiwn o gerdded Taith Llewelyn

(5 milltir), taith sy’n cychwyn a gorffen yn Llys Llewelyn. 


DYDD 3  Dewis rhwng Taith Menai (8.5 milltir) neu Taith Dwynwen

(8.5 milltir).
Cludiant nôl a blaen i gychwyn/diwedd y daith.

DYDD 4   Opsiwn o gerdded Taith Maelog (5 milltir) yn y bore cyn cael eich cludo i Borthladd Caergybi ar gyfer mordaith i Dun Laoghaire.
Cludiant o Dun Laoghaire i’r gwesty ynghanol mynyddoedd Wicklow.

DYDD 5:  Cerdded cylchdaith Glen Da Lough, “Dyffryn y Ddau lyn” (8 Milltir)

Cychwyn a gorffen yn y gwesty.  Aiff y daith yma trwy ardal hyfryd o Wicklow gan ymweld ag olion mynachlog s’yn dyddio nôl i’r 5ed ganrif. 

DYDD 6:  Trooperstown a phentref  Annamoe (9 Milltir)

Mae’r daith yma yn eich tywys ar hyd ffyrdd tawel cefn gwlad i gopa Trooperstown. Ar ddiwrnod clir, mwynhewch ogoniant mynyddoedd Wicklow a thu hwnt.


DYDD 7:  Cludiant o’r gwesty i borthladd  Dun Laoghaire ar gyfer croesi nôl i Ynys Môn.   Cludiant o Gaergybi  at eich car/gorsaf drenau/maes awyr.


PRIS £530(Sterling) Y PERSON- (DAU BERSON YN RHANNU)

ENGHRAIFFT YN UNIG YDI’R PECYN YMA.  GALL NIFER Y DYDDIAU NEWID FEL BO ANGEN.

Ynys Llanddwyn, Môn           Glendalough, Wicklow

 

Cysylltwch â ni os am fwy o wybodaeth neu os am greu pecyn unigryw eich hun.